Atodiad A - Cwestiynau yr ymgynghoriad

 

Er mwyn ymhelaethu ar y cylch gorchwyl, darperir cyfres o gwestiynau isod. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu'r rhai sy'n dymuno ymateb i'r ymgynghoriad hwn ac ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol. Nid oes angen ichi ateb pob un o'r cwestiynau.

 

Rhan 2: Tybaco a Chynhyrchion Nicotin

Mae Rhan 2 o'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin, ac mae'r rhain yn cynnwys gosod cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin megis sigaréts electronig (e-sigaréts) yn cyd-fynd â'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu; creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin; a gwahardd trosglwyddo tybaco neu gynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed.

 

·         A ydych yn cytuno y dylai'r defnydd o e-sigaréts gael ei wahardd mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig yng Nghymru, yn yr un modd ag y mae tybaco sy'n cael ei ysmygu wedi'i wahardd ar hyn o bryd?

·         Beth yw eich barn ar ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu ac e-sigaréts i rai mannau nad ydynt yn gaeedig (gallai enghreifftiau gynnwys tir ysbytai a meysydd chwarae i blant)?

·         A ydych yn credu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn sicrhau cydbwysedd rhwng y manteision posibl i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi ac unrhyw anfanteision posibl sy'n gysylltiedig â'r defnydd o e-sigaréts?

·         A oes gennych farn ynghylch a yw'r defnydd o e-sigaréts yn ail-normaleiddio ysmygu mewn mannau di-fwg, ac o ystyried eu bod yn efelychu sigaréts o ran eu hymddangosiad, a ydynt yn hyrwyddo ysmygu yn anfwriadol?

·         A oes gennych farn ynghylch a yw e-sigaréts yn apelio'n benodol at bobl ifanc ac y gallant arwain at fwy o ddefnydd ohonynt ymysg y grŵp oedran hwn, ac efallai yn y pen draw arwain at ysmygu cynhyrchion tybaco?

·         A oes gennych unrhyw farn ynghylch a fydd cyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau di-fwg cyfredol yn cynorthwyo rheolwyr mangreoedd i orfodi'r drefn dim ysmygu bresennol?

·         A oes gennych farn ynglŷn â lefel y dirwyon i'w gosod ar berson sy'n euog o droseddau a restrir o dan y Rhan hon?

·         A ydych yn cytuno â'r cynnig i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin?

·         A ydych yn credu y bydd sefydlu cofrestr yn helpu i amddiffyn pobl o dan 18 oed rhag cael mynediad i dybaco a chynhyrchion nicotin?

·         A ydych yn credu y bydd y drefn Gorchymyn Eiddo o dan Gyfyngiad, gyda chofrestr genedlaethol, yn cynorthwyo awdurdodau lleol i orfodi'r gyfraith mewn perthynas â throseddau tybaco a nicotin?

·         Beth yw eich barn ynglŷn â chreu trosedd newydd ar gyfer trosglwyddo tybaco a chynhyrchion nicotin yn fwriadol i berson o dan 18 oed, sef yr oedran gwerthu cyfreithiol yng Nghymru?

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion yn ymwneud â thybaco a chynhyrchion nicotin a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

Rhan 3: Triniaethau Arbennig

Mae Rhan 3 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i greu system drwyddedu orfodol, genedlaethol ar gyfer ymarferwyr sy'n darparu triniaethau arbennig penodol yng Nghymru, sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.

 

·         Beth yw eich barn ynglŷn â chreu system drwyddedu orfodol, genedlaethol ar gyfer ymarferwyr sy'n darparu triniaethau arbennig penodol yng Nghymru, a bod yn rhaid i'r fangre neu'r cerbyd lle mae ymarferwyr yn gweithredu fod wedi ei gymeradwyo?

·         A ydych yn cytuno â'r mathau o driniaethau arbennig a ddiffinnir yn y Bil?

·         Beth yw eich barn ar y ddarpariaeth sy’n roi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r rhestr o driniaethau arbennig drwy is-ddeddfwriaeth?

·         Mae'r Bil yn cynnwys rhestr o broffesiynau penodol sy'n esempt o'r angen i gael trwydded i roi triniaethau arbennig. A oes gennych unrhyw farn ynglŷn â'r rhestr?

·         A oes gennych unrhyw farn ynghylch a fyddai gorfodi'r system drwyddedu yn arwain at unrhyw anawsterau penodol i awdurdodau lleol?

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion yn ymwneud â thriniaethau arbennig a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

Rhan 4: Rhoi Tyllau Mewn Rhannau Personol o'r Corff

Mae Rhan 4 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i wahardd rhoi tyllau mewn rhan bersonol o'r corff i unrhyw un o dan 16 oed yng Nghymru.

 

·         A ydych yn credu bod angen cyfyngiad oedran ar roi tyllau mewn rhannau personol o'r corff? Beth yw eich barn ynglŷn â gwahardd rhoi tyllau mewn rhannau personol o'r corff i unrhyw un o dan 16 oed yng Nghymru?

·         A ydych yn cytuno â'r rhesr o rannau personol o'r corff a ddiffinnir yn y Bil?

·         A oes gennych unrhyw sylwadau ar y cynigion i roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i orfodi'r darpariaethau, ac i roi'r pŵer i awdurdodau lleol fynd i mewn i fangre, fel y nodir yn y Bil?

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion sy'n ymwneud â thriniaethau arbennig a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

Rhan 5: Gwasanaethau Fferyllol

Mae Rhan 5 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol gyhoeddi asesiad o'r angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal gyda'r nod o sicrhau bod penderfyniadau am leoliad a maint y gwasanaethau fferyllol yn seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau lleol.

 

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion yn y Bil yn cyflawni'r nod o wella'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru?

·         Beth yw eich barn ynghylch a fydd y cynigion yn annog fferyllfeydd presennol i addasu ac ehangu eu gwasanaethau mewn ymateb i anghenion lleol?

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion sy'n ymwneud â gwasanaethau fferyllol a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

 

Rhan 6: Darparu Toiledau

Mae Rhan 6 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaeth leol i gynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau i gael mynediad i gyfleusterau toiled i'r cyhoedd eu defnyddio.

 

·         Beth yw eich barn ynglŷn â'r cynnig y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru o dan ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal?

·         A ydych yn credu y bydd paratoi strategaeth toiledau lleol yn arwain at well ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn y pen draw?

·         A ydych yn credu bod y ddarpariaeth yn y Bil i sicrhau ymgysylltu priodol â chymunedau yn ddigonol i warantu bod barn pobl leol yn cael ei hystyried wrth ddatblygu strategaethau toiled lleol?

·         A oes gennych unrhyw farn ynghylch a fyddai gallu Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ar ddatblygu strategaethau yn arwain at ddull gweithredu mwy cyson ar draws awdurdodau lleol?

·         Beth yw eich barn ynglŷn ag ystyried darparu cyfleusterau toiled mewn lleoliadau sy'n cael arian cyhoeddus wrth ddatblygu strategaethau lleol?

·         A ydych yn credu bod cynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a phobl anabl o fewn y term 'toiledau' yn ddigonol i sicrhau bod anghenion pob grŵp yn cael eu hystyried wrth ddatblygu strategaethau toiled lleol?

·         A ydych yn credu y bydd y cynigion yn ymwneud â darparu toiledau a gynhwysir yn y Bil yn cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

 

Cwestiynau cyllid

 

 

Pwerau dirprwyedig

Mae'r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a dyroddi canllawiau.

 

Sylwadau eraill